Yn ystod yr 19eg a’r 20fed ganrif, Cei Connah oedd un o’r porthladdoedd mwyaf a phwysicaf ar Aber y Ddyfrdwy. Dychmygwch yr afon sydd o’ch blaen yn ferw o gychod yn danfon neu’n casglu nwyddau – gan allforio glo, brics, cemegolion a gwrtaith, a mewnforio coed. Yn 1844 roedd llongau yn gadael yma am Barrow, Aberteifi, yr Iwerddon, Ffrainc, Gwlad Groeg, yr Almaen, Nova Scotia a Norwy.
Bu Caer yn borthladd pwysig ers cyfnod y Rhufeiniaid, ond mor bell yn ôl â’r bymthegfed ganrif, dechreuodd yr afon siltio gan rwystro’r llongau mawr rhag cyrraedd dinas Caer. I ddatrys y broblem hon torrwyd sianel o’r enw New Cut ar y Ddyfrdwy yn 1737. Roedd y sianel ddofn hon yn dilyn glannau deheuol y Ddyfrdwy o Gaer i bentref Golfftyn, ble adeiladwyd pâr o bileri cerrig i gysgodi’r cychod. Yr ardal hon o gwmpas y pileri a ddatblygodd yn ddiweddarach i greu porthladd Cei Connah!
Yn 1860, sefydlodd y Capten John Coppack un o’r cwmnïau llongau mwyaf llwyddiannus. Tyfodd y busnes o gychwyn bychan ym mharlwr ei dy yn Stryd y Capel, a bu’n masnachu am dros gan mlynedd, gan ddechrau gyda llongau hwylio a mynd ymlaen i longau stem wedyn. Ar ei anterth, roedd y cwmni yn rhedeg deg neu fwy o longau.
Roedd adeiladu llongau yn fusnes llewyrchus hefyd. Y cwmni enwocaf oedd Ferguson and Baird – oedd yn enwog am eu llongau hwylio pren. Adeiladwyd y llong Kathleen and May yn 1900 i’r Capten Coppack. Yr enw gwreiddiol oedd y Lizzie May ar ôl ei ddwy ferch. Yn 1988 cafodd y llong ei hadnewyddu i’w hen ogoniant. Hi bellach yw’r “sgwner tri hwylbren gyda chorff pren” olaf i oroesi.

Heddiw, mae amlinelliad Pont y Fflint yn ein hatgoffa bod cludo nwyddau ar y ffordd wedi disodli llongau ond, wrth ichi edrych ar y cei a adnewyddwyd, ystyriwch am funud orffennol arforol y dref.
Ac am eich bod chi yma, edrychwch am waith Random – ateb Sir y Fflint i Banksy – yr artist graffiti dirgel sy’n gadael ei luniau stensil du-a-gwyn ar adeiladau ar hyd arfordir Sir y Fflint – a’r cwbl wedi’u hysbrydoli gan hen ddiwydiannau’r glannau.
You must be logged in to post a comment.