Bettisfield


Rydych yn sefyll ar dir a oedd yn rhan o lofa Bettisfield ar un adeg. Byddai’r lle yn ferw o weithgaredd – yn swnllyd ac yn fudr gyda thomennau sbwriel o gwmpas ymhobman. Ar y môr, byddai llongau’n cario glo, haearn, plwm a sinc.

Rhed gwythiennau trwchus o lo ar hyd arfordir Sir y Fflint – gan ymestyn mewn lleoedd ymhell o dan aber y Ddyfrdwy. Roedd mynediad hwylus i’r môr yn golygu y gellid allforio’r glo yn hawdd. Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg roedd Caer yn dibynnu ar lo Sir y Fflint, cafodd llawer ohono ei allforio’n rheolaidd i’r Iwerddon hefyd. Yn y flwyddyn 1847 agorodd y Rheilffordd o Gaer i Gaergybi gan wella’r cludiant eto ac erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd pyllau glo yn frith ar hyd yr arfordir o’r Parlwr Du i Queensferry.

Roedd hyd at un ar ddeg o lofeydd o gwmpas Bagillt, ond glofa Bettisfield oedd yr un fwyaf a’r bwysicaf. Agorodd yn 1872 gan weithio gwythiennau trwchus o lo oedd yn ymestyn allan o dan aber y Ddyfrdwy. Roedd yma arwynebedd gweithio o dros bedair mil o erwau, ac erbyn 1908 roedd y lofa’n cyflogi 641 o ddynion.

Nid oedd llifogydd yn broblem yn Bettisfield, ond torrodd yr afon ei glannau yng nglofa Mostyn gyfagos yn 1884 a daeth 823 o flynyddoedd o gynhyrchu glo i ben.

Cafodd Bettisfield ei fwrw’n galed yn ystod streiciau a dirwasgiad ugeiniau a thridegau’r ganrif ddiwethaf. Ni chafodd adferiad llwyr. Caeodd yn 1933, pan gollodd 415 o bobl eu swyddi. Parhaodd glofa gyfagos y Parlwr Du yn hirach o lawer, a hwn oedd y pwll olaf i gau yng Ngogledd Cymru yn 1996. Mae cynhyrchu ynni yn dal yn bwysig yma a gallwch weld y derfynfa nwy naturiol a’r twrbeiniau gwynt allan yn y môr.
Bu Bagillt ei hun yn borthladd llwyddiannus ers dechrau’r ail ganrif ar bymtheg. Erbyn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd chwarter holl gynnyrch plwm Prydain yn cael ei smeltio yma, a’r rhan fwyaf ohono’n cael ei allforio ar y môr. Byddai’r stemars yn cario teithwyr yn rheolaidd rhwng Lerpwl a Bagillt. Roedd yma ddau gei: Gwter Glan y Ddyfrdwy a Doc Bagillt.

Mae’r diwydiannau trwm wedi hen ddiflannu, a’r arfordir yn dawel erbyn hyn. Ond mae nifer o gychod pysgota bach, llawer yn eiddo’r un teuluoedd ers cenedlaethau, yn dal i ddefnyddio’r hen geiau hyn.