Talacre


Bu’r ardal hon yn beryglus i longau erioed. Adeiladwyd goleudy Talacre yn 1777 i ddangos y fynedfa i’r aber ar ôl colli dwy long, eu morwyr a’u llwyth. Peidiwyd â’i ddefnyddio yn 1883, ac yn ei le daeth Llong-olau’r Ddyfrdwy. Ond mae’r goleudy’n dal yma ac yn un o dirnodau mwyaf gwerthfawr Sir y Fflint. Caiff ei ffotograffu yn aml ac mae hyd yn oed wedi bod mewn hysbyseb ar y teledu.

Bu’r traethau tywod eang yn atyniad i bobl ar wyliau ers tro. Codwyd nifer o gytiau pren ar hyd twyni tywod Talacre ac mae gan lawer o bobl Glannau Merswy atgofion melys am dreulio oriau plentyndod ar y traeth. Erbyn hyn gosodwyd parciau carafanau mwy cyfoes yn lle’r cytiau, ond ni chollodd y twyni tywod eu hapêl o gwbl.

Mae’r twyni yn denu llu o fathau gwahanol o fywyd gwyllt hefyd. Yn oriau’r nos dyma gynefin un o greaduriaid prinnaf Cymru – llyffant y twyni. Ar un adeg, pan roedd y twyni’n ymestyn ar hyd arfordir Gogledd Cymru hyd at Ynys Môn, roedd y madfallod od hyn yn fwy cyffredin o lawer. Ond pan ymestynnodd y parciau carafanau collodd y llyffaint eu cynefin ac erbyn y chwedegau roedden nhw wedi diflannu o Gymru yn llwyr. Tua deng mlynedd yn ôl cawsant eu hail gyflwyno i’r twyni yn Nhalacre ac erbyn hyn maen nhw’n llwyddo i fagu yn y llynnoedd heli. Anifail prin arall a gafodd ei ailgyflwyno’n llwyddiannus yw madfall y tywod sef y fadfall fwyaf lliwgar a thrawiadol o’r tair madfall sydd ym Mhrydain.

Bob haf, mae’r forwennol fach yn dychwelyd o Affrica i nythu ar y cerrig mân ar draeth Gronant ar ochr orllewinol Talacre. Dyma’r unig nythfa ohonyn nhw sy’n magu cywion yng Nghymru. Edrychwch am yr adar acrobatig hyn yn hofran uwchben y môr neu’n plymio i’r dŵr i bysgota. Gallwch glywed eu galwad aflafar yn ymyl y safle nythu.

Mae llawer o blanhigion anghyffredin a lliwgar yn ffynnu yn y twyni. Edrychwch am y celyn y môr sy’n bigog, melyn yr hwyr sy’n dal ac yn felyn, llaethlys y môr a’r tegeirian bera.  Mae’r blodau’n denu llawer o wenyn, gloÿnnod a gwyfynod gan gynnwys y gwyfyn bwrned coch a du nodedig.

Yn yr haf mae’r twyni’n dadseinio gan ganu adar. Gwrandewch am yr ehedyddion yn canu wrth godi’n uchel i’r awyr. Edrychwch am y dinwen yn y twyni, a’r clegar y cerrig, sydd â’i alwad fel cerrig yn taro yn erbyn ei gilydd. Mae’r teloriaid bach eiddil yn gwibio yn y llwyni – wedi’u cuddio gan eu lliw ond allwch chi byth beidio â chlywed eu cân bersain. Uwchben y twyni, mae’r cudull coch a’r bwncath yn hofran gan chwilio am eu hysglyfaeth. Ac os byddwch chi yma adeg y cyfnos neu’r wawr efallai byddwch yn lwcws a chael cip ar y dylluan glustiog yn hela.