Adeiladu’r Castell


Dewisodd Edward Cyntaf y lle strategol perffaith i godi ei gastell – ar frigiad o graig ar y lle culaf ar draws y Ddyfrdwy ac roedd yma ddigonedd o adnoddau o Cilgwri, a phorthladd Caer yn ddim ond pellter un diwrnod o orymdeithio.

Roedd adeiladu’r castell yn waith aruthrol o fawr. Cloddiwyd am lawer o’r meini o chwarel Ness a’u cludo ar yr afon ar rafftiau pren. Torrwyd y coed a’u cludo o Goedwig Toxteth Forest a Sir Gaer.

Roedd y dasg enfawr hon yn golygu bod angen gweithlu anferth. Gorfodwyd miloedd o weithwyr i orymdeithio o fannau o Loegr gan gwrdd yng Nghaer ac yna mynd ymlaen i’r Fflint i osod gwersyll.

Yn 1277 cyrhaeddodd mil ac wyth gant o ddynion i baratoi sylfeini’r cloddiau. O’r Iseldiroedd a Chorsydd Swydd Lincoln y daeth nifer o’r rhain – dynion oedd yn brofiadol mewn cloddio ffosydd. Roedd yn waith anodd a pheryglus yn erbyn amseroedd y llanw. Erbyn Awst 1277 roedd y nifer wedi codi i 2300. Byddai’r dynion i gyd wedi byw yn y gwersylloedd ar y safle oedd yn tyfu’n gyflym ac yn flerdwf o bobl.

Ar ôl i adeiladwyr y cloddiau a’r ffosydd adael fe ddechreuodd y seiri meini ar eu gwaith. Paratowyd 36000 o gerrig yn Chwarel Nesshead a’u cludo yma. Byddai saer maen yn saernïo ffenestri, grisiau troellog a holltau saethau – mae rhai o’r nodweddion hyn i’w gweld hyd heddiw.