Roedd swydd Meiri cyntaf y Fflint ‘Drwy Benodiad Brenhinol’ yn unig. Yn 1284 rhoddodd y Brenin Edward I ei Siarter Frenhinol gyntaf i’r dref gan roi Swydd y Maer i’w gefnogwr lleol Reginald de Grey, cwnstabl y Castell. Rheolai’r Maer y bwrdeistref gyda chymorth dau feili a etholwyd gan Saeson y dref.
Am ganrifoedd wedyn roedd y swydd yn parhau yn benodiad y goron, a rhoddwyd hi i uchelwyr o Saeson yn arferol.
Ar ôl diwygiad bwrdeistrefol 1835 daeth swydd y maer yn swydd etholedig. Etholwyd cynghorau newydd oedd yn cynnwys 12 cynghorwyr a 2 henadur. Roedd hawl i ddynion oedd yn drethdalwyr bleidleisio dros un o’u nifer i fod yn faer y dref. Rhoddwyd lwfans o £40 y flwyddyn i’r maer newydd.
Tirfeddianwyr neu ddiwydianwyr lleol oedd meiri etholedig y Fflint yn arferol. Yr un cyntaf oedd George Roskell o Stokyn Hall a redodd waith mawr smeltio plwm yn ymyl Porthladd y Fflint.
Yna roedd y Teulu Eyton, a redodd Glofa Dee Green a’r diwydiannwr Richard Muspratt, a ddaliodd y swydd 17 weithiau rhwng 1855 a’i farwolaeth yn 1884!
Roedd y Teulu Muspratt yn gymwynaswyr mawr yn yr ardal. Eiddo’r teulu oedd y gwaith alcali mawr ar yr aber. Cyfrannodd y gwaith hwn lawer at ffyniant y dref ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ar ol marwolaeth Richard fe gymerodd dau o’i feibion eu tro i fod yn faer. A bu John Huntley, eu partner yn y gwaith alcali, yntau’n faer 9 o weithiau.
Nid oes gan faer tref y Fflint heddiw ddim o bŵer unbenaethol ei ragflaenwyr yn y canoloesoedd, ond mae ei swydd yn dal yn un bwysig yn y dref. Mae Maer tref y Fflint yn llywyddu mewn digwyddiadau dinesig a hefyd yn cymryd rhan yn y gymuned gan gefnogi nifer o ddigwyddiadau yn yr ardal.