Y Porth Allanol


Roedd rhaid i’r Saeson oedd yn cael ei hannog i symud i ‘dref newydd’ Edward Cyntaf fod yn bobl galed. Roedd y Cymry lleol yn cael eu hatal o’r dref a’u cyfyngu. Am nifer o flynyddoedd roedd y tyndra rhwng y Cymry a’r Saeson yn arw. Am fod cysylltiad sylfaenol rhwng y dref a’r castell nid oedd byw yma’n hawdd o gwbl.

Roedd amddiffynfeydd y castell ei hun yn gryf iawn – muriau uchel o gerrig, ffos ddwbl – ond yr unig amddiffynfa i’r dref oedd ffos ddofn rhwng dau glawdd pridd.

Felly, pan ymosodwyd ar y Fflint yn ystod y blynyddoedd dilynol, roedd rhaid i bobl y dref ffoi o’u cartrefi a cheisio am ddiogelwch yn y castell.

Yn y flwyddyn 1282 llwyddodd y dref i ddod drwyddi ar ôl ymosodiad Dafydd ap Gruffydd. Ond 12 mlynedd yn ddiweddarach, yn wyneb ymosodiad Madog ap Llywelyn, roddodd Cwnstabl y Castell orchymyn i losgi’r dref er mwyn arbed y Castell. Dinistriwyd dros 70 o adeiladau.Yn 1400, cafodd y Fflint drawiad eto yn ystod chwildro Owain Glyndŵr. Ac yn 1403 dychwelodd ei gefnogwyr i osod gwarchae ar y dref.

Gwanhaodd pwysigrwydd milwrol y Castell, a bu heddwch cymharol am dros 200 mlynedd. Ond daeth newid enfawr yn ystod y Rhyfel Cartref!
Aeth Roger Mostyn, cefnogwr brwd y Brenin, ati i drwsio’r castell a gosod milwyr ynddo i ddiogelu’r porthladd er mwyn i nwyddau gael eu cludo i Ddinas Caer oedd dan warchae.

Yn 1646 daeth tref y Fflint ei hun o dan warchae. Dioddefodd y dref a’r castell yn drwm o ganonau Cefnogwyr y Senedd. Bu brwydro caled a gwaedlyd yn y strydoedd, gan adael y dref yn ddiymadferth ac yn ddrylliedig.

Ni ddefnyddiwyd y castell at ddibenion milwrol byth wedyn, ac araf bu adferiad y dref…… nes i ddiwydiannau newydd ddod â ffyniant newydd!