http://audioboo.fm/boos/2278404-yr-hen-lys-barn.mp3
Dyma un o'r adeiladau hynaf a phwysicaf yn y Fflint. Yma cynhelid Profion Llys y Sesiwn Fawr a'r Llysoedd Chwarter. Mae'r cofnodion sydd wedi'u cadw yn ddiddorol dros ben.
Dychmygwch Dorothy Griffiths druan o of Lanasa yn cael ei phrofi yma am ddewiniaeth yn 1665 ac yn wynebu'r un Uchel Farnwr oedd yn llywyddu ym mhrawf y Brenin Siarl 1af. Ychydig o fisoedd cyn hynny o roedd wedi dedfrydu tair gwraig o Sir Gaer i farwolaeth am ymwneud ag ysbrydion drwg. Ond yn rhyfedd iawn, ac yn groes i bob disgwyl, cafwyd Dorothy yn ddieuog.
Yn y flwyddyn 1731 cyhuddwyd John Wynne o orfodi Edward Cheney allan o bwll glo drwy rym. Cyhuddwyd Adam Edge o gipio Susanna Dandy er mwyn iddi briodi John Fisher o Holt!
Cynhelid achosion Sifil yma hefyd . Yn 1730 cafodd yr iwmon John Wynne ddirwy am adael cwrs dŵr heb ei sgwrio.
Pan ymadawodd y llysoedd yr adeilad, daeth Llys Barn y Fflint yn fragdy! Byddai'r haidd yn cael ei daenu dros y llawr uchaf iddo flaguro ac yna'n cael ei sychu mewn odyn - a dyma darddiad yr enw “Malt Kiln Lane”. Mae popty yn y cefn lle'r oedd pobl yn dod a'u toes i grasu.
Ers 1889 bu yma gyfres o siopau fel siop ddillad, cigydd, a Peers and Edwards “public supply stores” - . Gellir darllen y geiriau ar ochr yr adeilad hyd heddiw.
Eiddo Tommy Blithell oedd yr adeilad am ddeugain mlynedd. Roedd yn gwerthu teledu, radio a nwyddau ffansi.
Bu'r Hen Lys Barn yn gwasanaethu pobl y Fflint am ganrifoedd, nid yn ei bwrpas gwreiddiol yn unig ond , yr un mor bwysig, yn siop hoffus oedd yn sefyll mewn lle amlwg yn Stryd yr Eglwys.